Bydd Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru’n cael ei chynnal Medi 16-18, 2020 yn Neuadd Gwyn Castell Nedd am yr ail dro fel rhan o gynllun cyffrous 3 mlynedd i enhang yr ŵyl drwy bartneriaeth allweddol gyda Cyngor Sir Castell Nedd, Coleg Castell Nedd a Neath Inspired. Sefydlwyd y digwyddiad gan Euros Jones-Evans ac Samira Mohamed Ali ac fydd yn ogystal yng ngofal yr Ŵyl.
Mae yr ŵyl yn agored i gyflwyniadau ar draws y byd ac mae cystadleuwyr yn gallu cyflwyno eu prosiectau i 24 gwahanol gategori drwy blatfform FilmFreeway.
Bydd yr Ŵyl yn parhau am 3 diwrnod, ac yn dangos dros 70 o ffilmiau gwahanol – yn ffilmiau hir, byr ac animeiddiad. Yn ystod yr ŵyl cynhelir gweithdai, seminarau a hyfforddiant arbennig gan arbenigwyr yn y diwydiant ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau’r dyfodol, yn ogystal â Chyfarwyddwyr a Chynhyrchwyr profiadol ynghyd a theithiau o amgylch yr ardal yn edrych ar y lleoliadau ffilmio posib fel Parc Margam.
Partneriaid a Noddwyr Swyddogol
Mae GFfRC wedi derbyn cefnogaeth hael a gwerthfawr gan noddwyr lleol a’i gwnaeth hi’n bosibl i lansio yr Ŵyl. Ein prif noddwyr a phartneriaid ydy Cyngor Sir Castell Nedd, Coleg Castell Nedd, Sefydliad Confucius Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Neath Inspired, Neuadd Gwyn, Gravells, Welsh Factor, 2B Enterprising, Bay Studios a Grŵp Tanabi. Maent yn gefnogol iawn ac yn llawn brwdfrydedd ynglŷn â photensial yr Ŵyl i ddod yn blatfform gwych ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau o Gymru. Bydd cyfle hefyd i bawb arddangos eu prosiectau a chystadlu ar lefel ryngwladol. Mae eu cefnogaeth amhrisiadwy ac wedi galluogi’r tim i lansio’r Ŵyl eleni gan hybu datblygiad gwneuthurwyr ffilmiau yn yr ardal dros y 3-5 mlynedd nesaf. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â noddi’r Wyl, cliciwch yma, os gwelwch yn dda.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() ![]() ![]() |