Darllenwch ein Rheolau a DVD Arferion Gorau
Manylebau ar gyfer ceisiadau i Ŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru
Mae’r cwbl i’w wneud â thegwch, ac fel aelodau blaenllaw o UFFO rydym ni’n dryloyw ac yn hyrwyddo ffilmiau annibynnol!
- Ffilmiau’n cael eu beirniadu gan Reithgor y Diwydiant Ffilm
- Gŵyl sy’n cael ei hyrwyddo’n eang
- Rydym wedi ymrwymo i Dryloywder
- Y cyntaf i’r felin gaiff ddisgownt drwy ddefnyddio’r cod “wiffearlybird”
- Disgownt o 40% o’r ffioedd ceisiadau
FIDEO CERDD
Fideo sy’n cyfleu darn cyflawn o gerddoriaeth neu gân.
Gofynion: Rhaid i’ch cais fod yn fideo cerdd sydd wedi ei greu’n benodol fel cynrychiolaeth weledol o ddarn o gerddoriaeth neu gân. Rhaid i’ch cais fod yn ddehongliad gwreiddiol wedi ei greu gan fand neu artist- dehongliad naratif neu haniaethol o’r gerddoriaeth neu’r perfformiad. Byddwn yn barod i dderbyn fideos cerdd ‘sbec’ answyddogol. Bydd rhaid clirio hawlfraint i’r gerddoriaeth i gyd gyda’r perchennog/trwyddedwr cymwys.
Ystyriaethau beirniadu: Rydym yn edrych am geisiadau sy’n cynrychioli’n weledol y gerddoriaeth a gyflëir mewn ffordd sy’n gweddu, yn ffres ac yn greadigol tu hwnt, o ran cysyniad a gweithredu.
FFILM FER/HIR
Ffuglen naratif fyw, yn llawn digwyddiadau a adroddir drwy gyfwng y fideo.
Gofynion: Rhaid i’ch cais fod yn ffuglen wreiddiol, naratif fyw, llawn digwyddiadau, sy’n arddangos celfyddyd dweud stori ddychmygus. Gall eich cais ddod o, ond heb ei gyfyngu, i’r genres canlynol: comedi, yn llawn digwyddiadau, drama, sioe gerdd, arswyd ayb. Dylai eich cais fod yn stori gyflawn sy’n cael ei chyflwyno mewn ffordd eglur, greadigol a gwreiddiol.
Ystyriaethau Beirniadu: Rydym yn edrych am ragoriaeth greadigol mewn fideos fydd yn gwthio ffiniau creu ffilm ac adrodd stori.
FFILM DOGFEN HIR/BYR
Fideo sy’n cyflwyno adroddiad ffeithiol ar bwnc neu syniad o’ch dewis.
Gofynion: Dylai’ch cais fod yn ddogfen wreiddiol sy’n arddangos y gelfyddyd o adrodd stori ffuglen
Gall geisiadau gynnwys amrywiaeth o ddulliau dweud stori: gan gyflwynydd, pry ar y wal, safbwynt, amredol neu storïau personol ayb. Rhaid i’ch cais fod yn syniad cyflawn wedi’i gyflwyno mewn dull gwreiddiol, arloesol ac eglur.
Ystyriaethau’r beirniadu: Rydyn ni’n edrych am fideo creadigol, atyniadol sy’n rhoi cipolwg ar berson, ffordd o fyw, achos, cred, neu sefyllfa go iawn, drwy ddulliau gwneud-ffilm ffuglen
ANIMEIDDIO
Stori sy’n rhoi bywyd i wrthrychau difywyd neu ddyluniadau cymeriad gan ddefnyddio technoleg gyfrifiadurol neu animeiddiad ffrâm wrth ffrâm
Gofynion: Rhaid i’ch cais fod yn fideo gwreiddiol byr wedi ei animeiddio, sy’n dangos y grefft o adrodd stori wedi ei animeiddio. Gall y ceisiadau gynnwys yr arddulliau animeiddio canlynol: 3D, 2D, cyfrwng cymysg neu unrhyw fath o animeiddio stop-symud
Ystyriaethau beirniadu: Rydyn ni’n chwilio am animeiddiad arloesol, esthetig sy’n dangos lefel uchel o dechneg a syniadaeth fydd yn cyfareddu’r gwyliwr gyda stori gref, atyniadol.
ARBROFOL
Fideo sy’n arbrofi gyda syniadau a/neu dechnegau newydd, yn aml yn cael ei nodweddu oherwydd absenoldeb naratif llinol
Gofynion: Gall ceisiadau gynnwys celf fideo, gwaith haniaethol, neu unrhyw waith sydd ddim yn seiliedig ar naratif, sy’n torri tir newydd mewn delwedd symud.
Ystyriaethau beirniadu: Rydym ni’n chwilio am fideos sy’n archwilio syniadau neu dechnegau newydd er mwyn ymestyn gwneud-ffilm ymhellach fel ffurf artistig, yn rhydd o gyfyngiadau ffurf naratif traddodiadol.
FFILM FER WEDI EI GWNEUD YNG NGHYMRU
Mae hwn yn agored i unrhyw wneuthurwr-ffilm sydd wedi gwneud ei ffilm yng Nghymru
Rydym ni’n chwilio am Geisiadau sy’n:
- sy’n seiliedig ar gysyniad diddorol
- Yn arloesol
- â chrefft dda; ac un
- sy’n creu emosiynau pleserus